Sut i ddefnyddio'r dudalen cysylltiadau
Gall defnyddwyr Admin greu cysylltiadau newydd, golygu, neu ddileu rhai sy’n bodoli eisoes gan ddefnyddio’r dudalen Cysylltiadau. Mae’r dudalen hon hefyd yn storio manylion Cysylltiad presennol pob derbynnydd sydd wedi cael dogfen ei hanfon gan eich Tîm.

Cliciwch enw eich tîm ar y brig ar y chwith o'r sgrin, cliciwch ar yr eicon ⚙ cogwheel ar ochr dde’r ddewislen ostwng i ymweld â'r dudalen Gosodiadau Grŵp, ac yna cliciwch Cysylltiadau.
Gellir defnyddio’r bar chwilio ar ben y dudalen i chwilio am Gysylltiadau. Gallwch chwilio am unrhyw linyn o gymeriadau sydd wedi’u lleoli mewn enw neu gyfeiriad e-bost.
Cliciwch y botwm i’r dde i’r bar chwilio i ychwanegu manylion ar gyfer cysylltiad newydd.
Cliciwch ar yr eicon ⋮ wrth ymyl Cysylltiad i'w newid neu i'w ddileu.
Gellir dyrannu cysylltiadau i ddogfen gan ddefnyddio’r Llyfr Cysylltiadau sydd ar gael ar y dudalen Anfon.