Uno Templedi gyda’i gilydd
Mae uno Templedi yn caniatáu ichi gyfansoddi Templedi mwy mawr drwy eu hadeiladu o lawer o rai llai. Gall hyn arbed amser yn sylweddol a fyddai fel arall yn cael ei dreulio’n paratoi ac yn uwchlwytho PDFau newydd.
Dewiswch yr holl Dempledi sydd eu hangen ar y dudalen Llyfrgell. Mae trefn y rhai a ddewisir yn penderfynu eu trefn ar ôl eu huno.
Bydd y bar tasgau aml-ddewis yn ymddangos ar waelod y sgrin wedyn.

Ar ôl dewis ‘Uno’, bydd ffenestr Templedi Uno yn popio i fyny ar y bar tasgau.
Mae hwn yn cynnwys rhestr o’r Templedi rydych yn eu huno, maes i enwi’r Templed newydd, a dewisfa i agor y Templed unedig newydd unwaith y’i crëir.

Bydd y Templed unedig newydd ar gael yn eich Llyfrgell a gellir ei anfon o’r dudalen Anfon. Bydd y Templedi gwreiddiol yn dal i fod ar gael, ond gellir eu Harchifo hefyd i’w dileu’n llwyr o’ch Llyfrgell.
Y Bar Tasgau Dogfen
Mae swyddogaethau defnyddiol eraill yn cynnwys:
· Dyblygu -- Creu Templedi newydd gyda neu heb yr un meysydd
· Archifo -- Dileu’r Templedi a ddewiswyd i gyd a’u rhoi yn eich Archif
· Anfon -- Anfon yr holl Dempledi a ddewiswyd fel aml-ddogfen neu fel Swp